Mynyddoedd Crimea
Gwedd
Math | cadwyn o fynyddoedd |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | llain Alpid |
Gwlad | Rwsia |
Uwch y môr | 1,545 metr |
Cyfesurynnau | 44.609718°N 34.24181°E |
Hyd | 180 cilometr |
Cadwyn o fynyddoedd yn y Crimea, Rwsia, yw Mynyddoedd Crimea (Wcreineg, Qırım dağları; Кримскі Гори, neu Krymski Hory). Mae'r gadwyn yn rhedeg yn gyforchrog i arfordir de-ddwyreiniol Crimea, rhwng tua pump ac wyth milltir o'r môr. I gyfeiriad y gorllewin mae'r mynyddoedd yn disgyn yn syrth i lan y Môr Du, ac i gyfeiriad y dwyrain maent yn disgyn yn araf i dirwedd steppe.
Ceir tair prif is-gadwyn. Yr uchaf yw'r Brif Gadwyn. Ymrennir yn sawl massif llai a adnabyddir fel yaylas neu lwyfandiroedd mynyddig (mae Yayla yn yr iaith Tatareg Crimea yn golygu "Dol Alpaidd"). Dyma'r prif yalyas:
- Baydar Yayla
- Ai-Petri Yayla
- Yalta Yayla
- Nikita Yayla
- Gurzuf Yayla
- Babugan Yayla
- Chatyr-Dag Yayla
- Dologorukovskaya Yayla
- Demerji Yayla
- Karabi Yayla
Roman-Kosh (Роман-Кош), ar Babugan Yayla, yw copa uchaf Mynyddoedd Crimea (1545 m / 5,000 troedfedd).
Y bylchau pwysicaf dros Fynyddoedd Crimea yw:
- Kuibysheve (Wcreineg: Куйбишеве; Rwseg: Куйбышеве), rhwng Yalta a Simferopol.
- Bwlch Angarskyi (Bwlch Angara), ger pentref Perevalne, rhwng Alushta a Simferopol.
- Mynydd Medved, rhwng Gurzuf a Partenit.